• 2.5 Brwydro'r Emosiynau: Mwy na PMS yw PMDD

  • Sep 1 2024
  • Length: 41 mins
  • Podcast

2.5 Brwydro'r Emosiynau: Mwy na PMS yw PMDD

  • Summary

  • Mae PMDD yn bwnc mae Celyn ac Elin wedi bod yn awyddus iawn i’w drafod ar Paid Ymddiheuro.

    Mae Premenstrual Dysphoric Disorder yn gyflwr a gafodd ei ychwanegu at y Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM) yn 2013 ac yn cael ei ddiffinio yno fel cyflwr iselder sy’n achosi symptomau corfforol ac emosiynol difrifol rhwng ofwliad a’r mislif.

    Heddiw mae’r merched yn cael cwmni Alys Golding i drafod ei brwydr hi i dderbyn diagnosis o PMDD. Bydd yr episod yma yn archwilio symptomau PMDD, cymharu'r rhain â PMS, parhau i ymladd am ddiagnosis a phwysigrwydd cael cyfuniad o ymyrraeth feddygol a thechnegau holistig fel triniaeth.

    Diolchiadau:

    Diolch i Becci Smart @disorderedbrain_

    Housemate Celyn – Emily

    Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch, os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

    Noddir y podlediad yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Lincs:

    https://iapmd.org/

    https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/premenstrual-dysphoric-disorder-pmdd/about-pmdd/#:~:text=Premenstrual%20dysphoric%20disorder%20(PMDD)%20is,phase%20of%20your%20menstrual%20cycle.

    Show more Show less

What listeners say about 2.5 Brwydro'r Emosiynau: Mwy na PMS yw PMDD

Average customer ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.