
Pennod 25 – Effaith Iaith Frodorol ar y Profiad o Roi Genedigaeth gyda Dr Catrin Hedd Jones a Catrin Roberts - Rhan 2 - Cymraeg
Failed to add items
Add to Cart failed.
Add to Wish List failed.
Remove from wishlist failed.
Adding to library failed
Follow podcast failed
Unfollow podcast failed
-
Narrated by:
-
By:
About this listen
Send us a text
[Rhan 2 o 2]
Yn y sgwrs hon rhwng Dr Catrin Hedd Jones, Goruchwyliwr Ôl Radd, a Catrin Roberts, bydwraig brofiadol a myfyrwraig Doethuriaeth Broffesiynol, mae'r ddau yn trafod pwysigrwydd iaith yn ystod y profiad geni. Yn y bennod ddwy ran o 'Let's Talk Preventative Healthcare', sydd yn Gymraeg a Saesneg, rydym yn archwilio ymchwil arloesol Catrin Roberts ar ddefnydd y famiaith yn ystod esgor a geni yng Ngogledd Cymru. Mae ei hastudiaeth, o'r enw "Mamiaith yn yr Ystafell Geni: Profiad Merched a Bydwragedd," yn archwilio sut mae dewis iaith yn effeithio ar famau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn lleoliad glinigol ddwyieithog. Trafodwyd y llenyddiaeth lleol ac yn rhyngwladol gan gynnwys sut ymgymerodd yr ymchwil yn y maes clinigol ar heriau sydd yno. Mae canlyniadau eto i ddod ond mae ystod o sgwrs am yr effaith cadarnhaol, fel boddhad bydwragedd, effaith ar ferched ar y pryd ac yn hir dymor a potensial i weithredu newid yn y maes, yn Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae trosolwg ar y cwrs ai ofynion, ac trafodaeth sydd yn plethu lles, iaith a diwylliant, trwy gyfnod arwyddocaol merch. P'un a ydych chi'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn rhiant beichiog, neu'n â diddordeb mewn iaith a diwylliant, mae'r sgwrs hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar rôl iaith frodorol wrth greu profiadau geni cadarnhaol.