Episodes

  • Y Panel Chwaraeon - Penodiad Steve Tandy, y Llewod, Athletau a Bocsio
    Jul 21 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Anwen Jones, Dewi Williams, Dafydd Pritchard a Lauren Jenkins sy'n trafod penodiad Steve Tandy fel Prif Hyfforddwr newydd Cymru, prawf cynta'r Llewod yn erbyn Awstralia, Oleksandr Usyk yn curo Daniel Dubois, Yr Ewro's, Rali Estonia a meddygon teulu yn Swydd Gaerloyw mewn cyd weithrediad gyda chlwb Forrest Green i roi tocynnau am ddim i drin isleder. Sgwrs hefyd gyda Gethin Jones; Chef de Mission tim Cymru gyda blwyddyn i fynd tan Gemau'r Gymanwlad.

    Show more Show less
    32 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Yr Ewros, Pel-droed, Tour de France, Rhanbarthau rygbi Cymru, Y Llewod a Ralio
    Jul 18 2025

    Ymunwch gyda Catrin Heledd a'r panelwyr Hana Medi, Carwyn Harris ac Ian Mitchelmore yn trafod, sut y bydd merched Cymru yn edrych nol ar eu hymgyrch yn yr Ewros; Y rapiwr Snoop Dog sydd wedi prynu rhan o glwb pel-droed Abertawe; Ymddeoliad y golwr Waynne Hennessey; y Tour de France; Coffa am y cyn beldroediwr hoffus, Wyn Davies; Dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru; Dim lle i Jac Morgan ym mhrawf cynta Y Llewod yn erbyn Awstralia; Ac Elfyn Evans yn paratoi ar gyfer Pencampwriaeth Rali y Byd yn Estonia

    Show more Show less
    16 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Yr Ewros, Cwpan y Byd i glybiau, Rygbi Cymru, Y Llewod, Wimbledon a Hwylio
    Jul 14 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Elain Roberts, Dylan Griffiths a Steffan Leonard; Diwedd ymgyrch merched Cymru yn yr Ewros; Chelsea yn Bencampwyr Cwpan y Byd i glybiau; Buddugoliaeth o'r diwedd i dîm rygbi Cymru; Y diweddara am daith Y Llewod; Rowndiau terfynol Wimbledon; Dyfodol ansicr i newyddiaduraeth chwaraeon; Cit chwaraeon cofiadwy; A sgwrs efo'r hwylwraig Elin Haf Davies sy'n cymryd rhan yn rasus yr "Admiral's Cup" a'r "Fastnet" eleni.

    Show more Show less
    23 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Yr Ewros, Cwpan y Byd i glybiau, Rygbi Cymru, Y Llewod, Wimbledon a Hwylio
    Jul 14 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Elain Roberts, Dylan Griffiths a Steffan Leonard; Diwedd ymgyrch merched Cymru yn yr Ewros; Chelsea yn Bencampwyr Cwpan y Byd i glybiau; Buddugoliaeth o'r diwedd i dîm rygbi Cymru; Y diweddara am daith Y Llewod; Rowndiau terfynol Wimbledon; Dyfodol ansicr i newyddiaduraeth chwaraeon; Cit chwaraeon cofiadwy; A sgwrs efo'r hwylwraig Elin Haf Davies sy'n cymryd rhan yn rasus yr "Admiral's Cup" a'r "Fastnet" eleni.

    Show more Show less
    23 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Yr Ewros, Rygbi Cymru, Wimbledon a'r Tour de France
    Jul 11 2025

    Ymunwch gydag Elliw Gwawr a'r panelwyr Sioned Dafydd, Cennydd Davies a Gruff McKee; Y diweddaraf am ymgyrch merched Cymru yn yr Ewros ar drothwy eu gêm grwp olaf yn erbyn Lloegr; 644 o ddyddiau wedi pasio ers i dîm rygbi Cymru ennill wrth iddyn nhw wynebu'r ail brawf yn Siapan; 20 mlynedd ers stadiwm Swansea.com, neu'r Liberty cyn hynny; Cynghrair bêl-droed yr Haf yn Nyffryn Clwyd; 20 mlynedd o Novak Djokovic yn Wimbledon; A Geraint Thomas yn y Tour de France.

    Show more Show less
    15 mins
  • Y Panel Chwaraeon - Yr Ewros, Wimbledon, Taith Y Llewod a Cymru yn Siapan, a Bocsio
    Jul 7 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Elin Lloyd Griffiths, Mei Emrys a Dafydd Pritchard; Owain Llyr a'r diweddara o'r Gynhadledd i'r Wasg yn yr Ewros; Sgwrs "tu ol i'r llenni" gydag Owain Harries o Gymdeithas Pel-droed Cymru; Y dechnoleg newydd yn Wimbledon; Lauren Jenkins sy'n dilyn taith Y Llewod yn Awstralia; Taith tîm Cymru yn Siapan; Buddugoliaeth arwyddocaol y bocsiwr Joe Cordina; a phwy sydd a'r mwstash gorau yn y byd chwaraeon?

    Show more Show less
    24 mins
  • Ewro 2025, Tour de France a'r Llewod
    Jul 4 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr, Dyfed Cynan, Elain Roberts a Dafydd Pritchard sy'n trafod Yr Ewro's, Y Llewod, Rygbi a'r Tour de France. Owain Llyr sydd a'r diweddara o'r Swisdir cyn gem hanesyddol Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd, a'r diweddara o Awstralia gan Lauren Jenkins wrth i'r Llewod baratoi i groesawi Owen Farrell i'r garfan.

    Show more Show less
    24 mins
  • Yr Ewro's, Wimbeldon, Sboncen, Ralio a Taith Cymru i Siapan
    Jun 30 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Nic Parry, Rhiannon Sim a Carl Roberts sy'n trafod yr Ewro's, Wimbeldon, taith y Llewod gan gynnwys yr anaf i Tomos Williams - Lauren Jenkins sydd a'r diweddara i ni o Awstralia, Sboncen a llwyddiant Joel Makin, Ralio, a sgwrs gyda Rhys Williams, Pennaeth Masnachol Undeb Rygbi Cymru cyn y daith i Siapan.

    Show more Show less
    22 mins